Ynglŷn â’r Rhestr

Mae Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru yn adnodd ymchwil addysgol a deongliadol, a’i nod yw cynyddu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo ymchwil bellach ar feysydd brwydrau a safleoedd gwrthdaro hanesyddol eraill yng Nghymru. Mae wedi’i anelu at gynulleidfa eang sy’n cynnwys y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn yr amgylchedd hanesyddol, grwpiau buddiant ac ymchwilwyr unigol.  Ceir dros 700 o frwydrau yn y Rhestr, ac ychwanegir ati a’i diwygio pan ddaw gwybodaeth newydd i law.

Mae’r Rhestr wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei llunio a’i chynnal gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar ran Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw).

Mae’r gwaith o greu’r Rhestr yn gysylltiedig â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, ac yn benodol felly adran 35 sy’n datgan bod yn rhaid i Weinidogion Cymru lunio cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru a’i gadw’n gyfredol. Mae isadran (2)(e) y Ddeddf yn datgan y dylai’r cofnod amgylchedd hanesyddol gynnwys ‘manylion pob safle gwrthdaro yn ardal yr awdurdod sydd o ddiddordeb hanesyddol ym marn Gweinidogion Cymru’. Yn y cyd-destun hwn mae ‘safle gwrthdaro’ yn golygu

(a) maes brwydr neu safle lle y digwyddodd rhyw wrthdaro arall a oedd yn cynnwys lluoedd arfog; neu

(b) safle lle y digwyddodd gweithgareddau sylweddol a oedd yn ymwneud â brwydr neu unrhyw wrthdaro arall a grybwyllir ym mharagraff (a).

 

Llunio’r Rhestr

Mae’r Rhestr yn canolbwyntio ar leoliad pob brwydr neu safle gwrthdaro a gwybodaeth graidd amdano; nid rhoi astudiaeth gynhwysfawr o frwydrau unigol yw’r bwriad. Darparwyd llyfryddiaethau ar gyfer pob cofnod brwydr er mwyn galluogi’r defnyddiwr i wneud ymchwil bellach.

Mae’r brwydrau sydd wedi’u cynnwys yn y Rhestr yn seiliedig ar ffynonellau hanesyddol ac maent yn cynnwys trafodaeth ar ddyfaliadau hynafiaethol diweddarach. Mae’r dyfaliadau hyn wedi dod yn sail i gred gyffredinol am leoliadau rhai brwydrau ond gellir dangos yn awr eu bod yn anghywir. Gosodwyd tag ar y rhain i nodi bod amheuaeth yn eu sgil, er mwyn creu ymwybyddiaeth ac i annog ymchwil bellach.

Mae’r wybodaeth am bob brwydr yn deillio o ffynonellau dogfennol (rhai gwreiddiol yn bennaf), ynghyd â thystiolaeth archaeolegol lle bo’n berthnasol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 600 a 1300 rydym yn ffodus bod gennym bedwar cronicl o bwys wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg, yn Lladin (Annales Cambriae) a thri addasiad Cymraeg o’r rhain sy’n ychwanegu deunydd pellach (Brut y Tywysogion). Dyma gofnod craidd y Rhestr. Cânt eu hategu gan fân groniclau eraill, yn Lladin a Chymraeg, a chofnodion swyddogol y Goron sy’n aml yn rhoi gwybodaeth am daliadau i filwyr a gwaith adeiladu. Mae’r farddoniaeth a gyfansoddwyd i’r tywysogion Cymreig hefyd yn crybwyll llawer o frwydrau, gan gynnwys rhai na cheir mohonynt yn y croniclau. Ar gyfer cyfnod y Rhyfel Cartref (1642-51) mae gennym gyfoeth o ddeunydd argraffedig ar ffurf adroddiadau wythnosol gan y Brenhinwyr a’r Seneddwyr, sy’n aml yn rhoi naratifau manwl. Mae gwaith hynafiaethwyr yng Nghymru wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol, ond mae hefyd wedi achosi rhywfaint o ddryswch gan fod y lleoliadau y maent yn eu pennu yn dod yn sefydledig ac yn cael eu harddangos ar fapiau hŷn, er na chawsant eu profi. Ceir rhagor o fanylion am y prif ffynonellau yma.

Yn ogystal â hyn, rhwng 2009 a 2014 cynhaliwyd rhaglen ymchwil raddol oedd yn cynnwys ymchwil ddogfennol a hanesyddol fanwl, a gwaith maes ymyrrol a gwaith maes nad ydoedd yn ymyrrol mewn rhai achosion, ar restr o 47 o frwydrau a gwarchaeau a flaenoriaethwyd. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn, gan gynnwys rhestr o safleoedd yr ymchwiliwyd iddynt ac adroddiadau’r ymchwil honno, yma.

 

Lleoli Meysydd Brwydrau

Mae lleoli maes brwydr neu safle lle cafwyd gwrthdaro yn aml yn her, a gall lleoliadau amrywio o unrhyw le yng Nghymru hyd at fan penodol. Mae’r Rhestr yn defnyddio wyth lefel sicrwydd yn elfen chwilio a mapio rhyngweithiol yr adnodd, gyda gwybodaeth ychwanegol bellach yn cael ei darparu yn nhrosolwg pob brwydr.

Dyma’r lefelau sicrwydd a ddefnyddir: (1) Cymru, (2) rhanbarth yng Nghymru, (3) Sir Hanesyddol, (4) Cantref Canoloesol, (5) Cwmwd Canoloesol, (6) Cymuned, (7) o fewn ardal  o 1km a (8) man penodol.

 

Dweud eich Dweud

Mae arnom eisiau i bobl rannu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am frwydr, a gellir gwneud hyn drwy DISQUS. Gellir gwneud sylwadau cyffredinol am yr adnodd drwy’r ddolen Cysylltu â Ni, tra gellir gwneud sylwadau penodol ynghyd â llwytho gwybodaeth am frwydr benodol ar dudalen adroddiad y frwydr unigol. Ceir gwybodaeth am delerau ac amodau gwneud hyn ar Telerau Defnydd a Hawlfraint.