Ffynonellau Meysydd Brwydrau

Isod ceir disgrifiad cryno o’r prif ffynonellau sy’n rhoi gwybodaeth am frwydrau a gwrthdaro yng Nghymru, ac a ddefnyddiwyd i lunio’r Rhestr hon. Gweler Grŵp Ymchwil y Croniclau Cymreig am ddisgrifiadau manylach o bob cronicl a rhagor o wybodaeth.

Daeth y croniclau Lladin sy’n ymwneud â Chymru, a elwir ar y cyd yn Annales Cambriae, o gyfres o frutiau a gafodd eu cywain yng ngogledd Cymru yn y nawfed ganrif. Canfu’r rhain eu ffordd i Dyddewi yn y ddegfed ganrif, lle ychwanegwyd deunydd o Frutiau Gwyddelig a lle parhawyd i ychwanegu cofnodion (cynrychiolir hyn orau gan y Cronicl Harleian sy’n cwmpasu’r blynyddoedd 445-977). Yna cafodd y brutiau hyn eu copïo a’u diweddaru, gyda phob copi newydd yn ychwanegu deunydd nad oedd i’w gael yn y lleill. Mae tair prif fersiwn wedi goroesi sy’n darparu brutiau hyd at ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg: y Cronicl Breviate a ysgrifennwyd yn Abaty Sistersaidd Nedd (o’r cread hyd at y flwyddyn 1286), y Cronicl Cottonian a ysgrifennwyd yn Nhyddewi (o’r cread hyd at y flwyddyn 1288), a’r Cronicon de Wallia a ddarganfuwyd yn llyfrgell eglwys gadeiriol Caerwysg yn 1939 ac a ysgrifennwyd yn Abaty Hendy-gwyn ar Daf, sy’n cwmpasu’r cyfnod 1190-1266 (ac eithrio 1217-27 a 1249-53). Mae mân fersiynau eraill wedi goroesi hefyd, megis Cronicl Morgannwg, sy’n tueddu i fod yn fwy lleol eu safbwynt.

Y croniclau Lladin hyn a rhai tebyg, sydd bellach ar goll, oedd sail Brut y Tywysogion, pan droswyd y deunydd hwn i’r Gymraeg ac ychwanegu deunydd pellach nad oedd ar gael yn eu ffynhonnell Ladin. Mae tair fersiwn Gymraeg wahanol wedi goroesi. Mae fersiwn Peniarth 20 yn cwmpasu digwyddiadau o 689 i 1330, ac fe’i hysgrifennwyd yn Abaty Sistersaidd Glyn y Groes ger Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae fersiwn Llyfr Coch Hergest yn cwmpasu digwyddiadau hyd at 1282 ac yn debyg i Peniarth 20, ond mae’n cynnwys rhai gwahaniaethau pwysig. Gelwir y drydedd fersiwn yn Brenhinedd y Saesson ac unwaith eto mae’n cynnwys deunydd tebyg gyda rhai manylion ychwanegol. Yn y Rhestr, defnyddir y term Brutiau i gyfeirio at bob un o’r tair fersiwn pan fyddant yn gytûn, a nodir y fersiynau unigol pan fyddant yn cynnwys gwybodaeth nas ceir yn y lleill.

Yn 1559 cyfieithodd Humphrey Llwyd o Ddinbych Frut y Tywysogion i’r Saesneg, gyda deunydd ychwanegol o groniclau eraill a rhywfaint o’i sylwadau ei hun. Ni chafodd hwn ei gyhoeddi, ond defnyddiwyd llawysgrif o’i gyfieithiad gan David Powel yn ei Historie of Cambria a argraffwyd yn 1584. Ychwanegodd Powel gyfeiriadau pellach o ffynonellau eraill a daeth y gwaith hwn, a ailargraffwyd sawl gwaith, yn hanes argraffedig safonol Cymru; ni chafodd ei ddisodli’n llwyr hyd y cyhoeddwyd A History of Wales J. E. Lloyd yn 1911. Roedd Llwyd a Powel yn gyfrifol am rai lleoliadau brwydrau amheus sydd, yn sgil canrifoedd o gael eu hailadrodd, wedi dod yn adnabyddus iawn, ond heddiw gellir edrych yn fanwl ar eu ffynonellau yn y Gymraeg a’r Lladin a chanfod rhai o’r gwallau. Daeth rhagor o frwydrau a lleoliadau amheus o ddogfen ddylanwadol fwy diweddar, sef Brut ffugiedig Aberpergwm (Gwentian), fersiwn o Frut y Tywysogion gyda deunydd ychwanegol yn ymwneud yn bennaf â de Cymru a ychwanegwyd gan Iolo Morgannwg yn y 1790au. Defnyddiwyd hwn yn helaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth llawer o’r brwydrau a grybwyllir ynddo, nad oeddent yn hysbys fel arall, yn adnabyddus tu hwnt.

Gellir canfod ffynhonnell arall o wybodaeth am y brwydrau y bu tywysogion Cymru yn ymladd ynddynt yn y farddoniaeth i’w moli yn y cyfnod 1100-1283. Mae’r cerddi hyn yn cyfeirio’n aml at fuddugoliaethau a cholledion gan arweinwyr Cymreig, ac enwir llawer o’r brwydrau. Enwir rhai o’r rhain yn y croniclau a gall y farddoniaeth ychwanegu rhagor o fanylion, ond mae rhai o’r brwydrau yn anhysbys fel arall.

Ynghyd â’r croniclau sy’n deillio o Gymru, ceir hefyd y gweithiau niferus a ysgrifennwyd yn Lloegr ac sy’n cyfeirio at frwydrau a gwrthdaro yng Nghymru. Mae’r rhain yn aml yn rhoi enwau lleoedd a thystiolaeth dopograffig a all gynorthwyo i leoli brwydr neu safle gwrthdaro penodol, yn ogystal â rhoi safbwynt gwahanol ar ddigwyddiadau. Maent yn amrywio o’r Anglo-Saxon Chronicle i weithiau Roger o Wendover, Mathew Paris a brutiau amrywiol dai mynachaidd, gan gynnwys Tewkesbury a Chaerwrangon. Mae cofnodion swyddogol y Llywodraeth megis y Rholiau Siecr, Rholiau Caeedig, Rholiau Rhyddhau a dogfennau eraill y Goron hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at frwydrau, gwrthdaro a gwarchaeau mewn cestyll, yn ogystal â nifer y milwyr a’r costau eraill.

Ar gyfer gwrthryfel Owain Glyndŵr rhaid inni ddibynnu’n bennaf ar ffynonellau’r croniclau o Loegr, ond mae barddoniaeth Gymraeg y cyfnod hefyd yn rhoi tystiolaeth holl bwysig. Crybwyllir y digwyddiadau hefyd yng nghofnodion y Llywodraeth a’r ohebiaeth sydd wedi goroesi rhwng y bobl dan sylw.

Ceir digon o dystiolaeth am frwydrau’r Rhyfel Cartref (1642-51) mewn cylchlythyron argraffedig o ddwy ochr y gwrthdaro, sydd wedi eu casglu ynghyd ar ffurf y Thomason Tracts ac ar gael ar-lein (gyda thanysgrifiad). Ceir rhagor o dystiolaeth yn y cyfoeth o ohebiaeth sydd ar gael o’r cyfnod a chofnodion dyddiaduron y rhai fu’n ymwneud â’r brwydrau.

Mae llenyddiaeth hynafiaethol a thwristaidd y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn aml yn trafod brwydrau ac yn ceisio eu lleoli. Maent yn gyfrifol am lawer o leoliadau safleoedd brwydrau a briodolwyd ers amser maith, ond mae llawer ohonynt yn annibynadwy gan nad oedd y fersiynau o ffynonellau’r croniclau oedd ar gael iddynt hwy mor gywir â’r rhai a ddefnyddiwn ni heddiw. Cafodd y lleoliadau a enwyd ganddynt eu hailadrodd lawer gwaith gan ysgrifenwyr diweddarach, a chanfu rhai ohonynt eu ffordd i fapiau’r Arolwg Ordnans yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu dileu ers hynny. Mae astudiaethau ac adroddiadau archaeolegol modern wedi chwarae rhan bwysig o ran egluro materion, a rhoddir cyfeiriadau at y rhain ym mhob cofnod er mwyn cael gwybodaeth bellach.

Mae’r cofnodion unigol yn y Rhestr hon yn seiliedig ar ddeunyddiau o’r ffynonellau gwreiddiol cynharaf, ac maent yn trafod yr ymdrechion diweddarach i leoli’r safleoedd hyn lle daethant yn adnabyddus neu lle buont yn gyfrifol am greu dryswch. Mae hanesyddiaeth sut y daeth brwydr yn gysylltiedig â safle penodol yn aml cyn bwysiced â’r frwydr ei hun.