Ynglŷn â Brwydrau Cymru

Efallai na chafwyd brwydrau o faint rhai Bosworth neu Culloden yng Nghymru, ond mae ganddi hanes cymhleth o wrthdaro ar raddfa lai. Fe gafwyd, yn wir, rai brwydrau mawr ffyrnig ond roedd y rhain yn gymharol brin ac roedd gwrthdaro ar raddfa lai yn fwy cyffredin. Bu llawer gwarchae ar gestyll Cymru, ac roedd ymosodiadau ar y trefi gerllaw yn gyffredin cyn 1300.

Mae’r ymgiprys am rym rhwng Teyrnasoedd a Thywysogion Cymru, a’r terfysgoedd a’r gwrthryfeloedd yn erbyn Brenhinoedd ac Arglwyddi Lloegr, yn ogystal ag anghydfodau ehangach fel y Rhyfel Cartref a’r Rhyfeloedd Byd, wedi chwarae rhan allweddol yn nhreftadaeth Cymru. Yng Nghymru hefyd y mae safle glaniad yr ymosodiad milwrol diwethaf ar Ynysoedd Prydain, sef Trwyn Carregwastad yn Sir Benfro – ymosodiad a ddigwyddodd bedair blynedd ar ôl cychwyn y gwrthdaro rhwng Prydain Fawr a Ffrainc Weriniaethol yn 1793. Yma yng Nghymru hefyd y bu’r gwrthryfel sifil arfog mawr diwethaf ar dir mawr Prydain, sef Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839.

Heblaw am ganfyddiadau meysydd brwydrau’r Rhyfel Cartref (1642-51), sy’n eithriadau nodedig, ynghyd â safleoedd neu nodweddion penodol sy’n ymwneud â digwyddiadau ac a wiriwyd drwy dystiolaeth ddogfennol – e.e. cestyll, awyrennau a saethwyd i lawr neu longddrylliadau – prin yw’r canfyddiadau meysydd brwydrau sydd wedi cael eu gwirio. O ganlyniad, cymharol isel yw nifer y lleoliadau pendant ar gyfer brwydrau. Yn sgil hynny mae’r Rhestr hon, gyda’i lleoliadau posibl ar gyfer brwydrau ar lefelau amrywiol o ran sicrwydd, wedi’i seilio ar ffynonellau dogfennol a, lle bo’n briodol, tystiolaeth archaeolegol. Isod ceir gwybodaeth am y prif ffynonellau, a ddefnyddiwyd ochr yn ochr ag adroddiadau ymchwil ar restr o 47 o frwydrau a gwarchaeau a flaenoriaethwyd – ymchwil a wnaed er mwyn hysbysu’r Rhestr.