Rheoli Meysydd Brwydrau Hanesyddol

Nod cynnwys meysydd brwydrau a safleoedd gwrthdaro hanesyddol arall yn y Rhestr yw tynnu sylw at eu pwysigrwydd fel elfennau arwyddocaol o amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hefyd yn hybu eu diogelu, ac yn rhoi gwybodaeth i gefnogi gwaith rheoli cynaliadwy yn wyneb unrhyw newid sy’n effeithio arnynt. Drwy dynnu sylw at feysydd brwydrau fel hyn rhoddir anogaeth i fynd ati i reoli newid, gan leihau niwed diofal ac effeithiau andwyol, a lleddfu effeithiau datblygiad. Mae hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid yn y drafodaeth ynghylch gwerth ac arwyddocâd meysydd brwydrau, a’u cynnwys yn y gwaith o archwilio cyfleoedd i ddatblygu eu potensial addysgol a’u potensial o safbwynt twristiaeth.

 

Safleoedd Meysydd Brwydrau sy’n Cael eu Diogelu gan Ddeddfwriaeth

Mae Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru yn Rhestr anstatudol, sy’n golygu nad oes unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n diogelu meysydd brwydrau cyfan yng Nghymru. Fodd bynnag, gall rhannau o feysydd brwydrau fod wedi’u dynodi yn henebion cofrestredig neu’n adeiladau rhestredig, a gall rhai meysydd brwydrau fod o fewn ardaloedd o dir sydd wedi’u cofrestru fel parciau a gerddi hanesyddol.

Gall gweddillion sy’n dal i sefyll ar safle maes brwydr hanesyddol fod yn gofrestredig, gan gynnwys, er enghraifft, gwrthgloddiau sy’n gysylltiedig â gwarchaeau. Mae’r diwygiadau deddfwriaethol diweddar a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 hefyd yn caniatáu i ystod ehangach o safleoedd gael eu cofrestru, gan gynnwys safleoedd, megis meysydd brwydrau, lle mai’r unig weddillion archaeolegol sydd wedi goroesi yw gwasgariadau o wrthrychau ac arfau rhyfel sy’n gysylltiedig â chanolbwynt y gwrthdaro. Mewn achosion eraill gall safleoedd gwrthdaro gynnwys adeiladau neu strwythurau rhestredig.

Pan fydd meysydd brwydrau, neu rannau o feysydd brwydrau, wedi cael eu cynnwys yn y gofrestr o henebion, yna bydd angen cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw gynigion a allai effeithio arnynt mewn unrhyw fodd perthnasol. Gweinyddir y cydsyniadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru gan Wasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw). Yn achos adeiladau neu strwythurau rhestredig sy’n gysylltiedig â safleoedd meysydd brwydrau, bydd angen cydsyniad adeilad rhestredig gan yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol ar gyfer unrhyw gynnig am newid a allai effeithio ar eu diddordeb arbennig.

Gellir canfod gwybodaeth am Asedau Hanesyddol Dynodedig yng Nghymru ar Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, gwasanaeth ar-lein a ddatblygwyd gan Wasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw). Mae’n dangos darluniau a disgrifiadau cysylltiedig o Asedau Hanesyddol Dynodedig yng Nghymru.

 

Rheoli Safleoedd Meysydd Brwydrau Hanesyddol Drwy’r System Gynllunio

Gall safleoedd sydd wedi’u cynnwys ar y Rhestr Meysydd Brwydrau Hanesyddol gynnwys gweddillion archaeolegol sy’n rhoi tystiolaeth o natur y gwrthdaro a fu. Mae cadwraeth gweddillion archaeolegol o’r fath yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio, boed y gweddillion hynny yn heneb gofrestredig ai peidio (gweler Pennod 6, adran 6.5.5 Polisi Cynllunio Cymru). Gall awdurdodau cynllunio lleol gynnwys polisïau yn eu cynlluniau datblygu i ddiogelu safleoedd meysydd brwydrau hanesyddol sy’n hysbys rhag datblygu anaddas, neu gallant gael eu dynodi yn ardaloedd cadwraeth.

Pan fo’n hysbys fod gweddillion archaeolegol sy’n gysylltiedig â maes brwydr hanesyddol yn bodoli, neu os oes posibilrwydd eu bod wedi goroesi, mae’r polisi cynllunio yn datgan yn glir y dylai’r awdurdod cynllunio lleol ofyn i’r sawl sy’n gwneud cais cynllunio gynnal asesiad desg archaeolegol a, lle bo’n briodol, gwerthusiad archaeolegol. Yna bydd y wybodaeth hon yn rhan o ystyriaeth yr awdurdod cynllunio lleol o’r cais hwnnw. Os ydynt yn bwriadu cymeradwyo cais, gall yr awdurdod cynllunio lleol osod amodau i ddiogelu unrhyw weddillion archaeolegol, neu gallant ei gwneud hi’n ofynnol i’r datblygwr sicrhau darpariaeth briodol a boddhaol ar gyfer yr ymchwiliad archaeolegol a’r modd y cofnodir y gweddillion wedi hynny.

Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cael ei gefnogi yn y broses benderfynu hon naill ai gan ymgynghorwyr archaeolegol mewnol neu gan adrannau curadurol pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Mae’r ymgynghorwyr hyn yn defnyddio’r wybodaeth a geir yn y cofnodion amgylchedd hanesyddol (HER) a gedwir gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol. Mae gan y cofnodion hyn fynediad uniongyrchol i Restr Meysydd Brwydrau Hanesyddol Cymru er mwyn cefnogi’r broses hon.