Canfyddiadau ar Feysydd Brwydrau

Darganfod Metel a Meysydd Brwydrau

Mae ymateb i ganfyddiadau arteffactau metel ar feysydd brwydrau neu yn eu cyffiniau a chofnodi’r canfyddiadau hynny yn broblematig. Gall maes brwydr gwmpasu ystod o safleoedd archaeolegol a gall ddyddio o Gynhanes cynnar i’r ugeinfed ganrif, felly gall y safleoedd hyn ddatgelu ystod amrywiol o ddiwylliant materol cysylltiedig.

Efallai y bydd pobl sy’n defnyddio darganfyddwyr metel yn targedu safleoedd meysydd brwydrau a’r dirwedd o’u hamgylch yn benodol, neu efallai y byddant yn chwilio’r dirwedd heb fod yn ymwybodol o’r archaeoleg oddi tani nac arwyddocâd unrhyw ganfyddiadau cysylltiedig. Wrth gynnig y canfyddiadau hyn er mwyn rhoi gwybod amdanynt, mae’n bosibl hefyd na fydd y Cynllun Henebion Cludadwy (PAS) yn ymwybodol o gyd-destun maes brwydr. O’r herwydd, ni fyddai llawer o ganfyddiadau sy’n nodweddiadol o safleoedd ôl-ganoloesol a safleoedd diweddarach yn cael eu cofnodi dan y cynllun PAS fel arfer.

Rhoi Gwybod am Ganfyddiadau ar Feysydd Brwydrau a’u Cofnodi

Wrth roi gwybod am ganfyddiadau ar feysydd brwydrau, mae gofyn cael lefel o gywirdeb man canfod sy’n uwch na’r arfer (darlleniad GNSS/GPS sy’n gywir i tua 10m) er mwyn cynhyrchu unrhyw ganlyniadau neu ddehongliadau ystyrlon. Ar safleoedd y Rhyfel Cartref lle gellir darganfod cannoedd o beledi plwm, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio darganfyddwyr metel fel diddordeb hamdden yn annhebygol o roi pob darn unigol o fetel y byddant yn ei ganfod mewn bag ar wahân a’i labelu, ac mae hyn yn golygu bod data cyd-destunol yn cael eu colli.

Pan fydd y sawl sy’n darganfod darn metel a’r PAS yn ymwybodol o gyd-destun maes y frwydr, dylid gwneud ymdrech i gofnodi’r holl ganfyddiadau yn gywir. Dylid bod yn ofalus i osgoi creu tueddiadau yn y cofnod archaeolegol drwy gofnodi canfyddiadau o ardal ddethol yn unig a pheidio â chofnodi canfyddiadau tebyg oddi allan i gyd-destun maes y frwydr, fel y’i deellir ar y pryd. Pan fydd canfyddiadau gwrthdaro ôl-ganoloesol yn cael eu cofnodi’n gynhwysfawr, dylid gwneud arolwg o’r dirwedd ehangach i gyd-fynd â’r cofnod os oes modd. Dylai fod brîff archaeolegol ar gyfer yr arolwg hwn, ac mae hyn y tu hwnt i gwmpas a chylch gorchwyl y PAS.

Er mwyn sicrhau bod unrhyw wybodaeth ddefnyddiol yn sgil canfyddiadau drwy ddarganfyddwyr metel ar feysydd brwydrau yn cael ei chofnodi, mae angen pwysleisio ymwybyddiaeth o bwysigrwydd canfyddiadau â man canfod cywir a chofnodi trwyadl ymhlith y sawl sy’n darganfod a pherchnogion tir. Mae’r Ymddiriedolaeth Meysydd Brwydrau wedi paratoi canllawiau ar ddarganfydda metel ar feysydd brwydrau, ac maent yn datgan:

Bydd gan bob arolwg neu brosiect cloddio ar feysydd brwydrau sy’n cynnwys defnyddwyr darganfyddwyr metel Gydlynydd Prosiect enwebedig, a chanddo neu a chanddi’r profiad a’r arbenigedd angenrheidiol o archaeoleg meysydd brwydrau i sicrhau’r canlyniadau gorau gan weithredwyr darganfyddwyr metel yn y maes.

Ni ddylid gwneud unrhyw ddarganfydda ac eithrio dan oruchwyliaeth Cydlynydd y Prosiect.

Amlinellir hefyd fethodoleg Archaeoleg Meysydd Brwydrau a darganfydda metel gan yr Ymddiriedolaeth Meysydd Brwydrau.

 

Dolenni a Chysylltiadau Defnyddiol:

PAS Cymru – arweiniad i’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru

Mark Lodwick, Cydlynydd Canfyddiadau PAS Cymru, Adran Hanes ac Archaeoleg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP. Ffôn: 02920 573226; ebost: mark.lodwick@museumwales.ac.uk